Skip to main content

Cymerwch Ran

Mae angen eich help arnom i wireddu ein gweledigaeth. Mae’r mudiad Dinas Noddfa yn dibynnu ar waith partneriaeth effeithiol ac nid yw gwneud Cymru yn ‘Genedl Noddfa’ yn eithriad.

Heb gefnogaeth gwleidyddion, grwpiau cymunedol, grwpiau ffydd, busnesau ac unigolion, ni fydd Cymru yn gallu dod yn ‘Genedl Noddfa’.

Y cam cyntaf tuag at wireddu ein gweledigaeth yw casglu addewidion o gefnogaeth. Dyma gyfle i’ch mudiad chi!

Mudiadau

Rydym yn gwahodd mudiadau ledled Cymru ag ôl troed rhanbarthol neu genedlaethol i fod yn rhan o’r weledigaeth ‘Cenedl Noddfa’. Gallai’r rhain fod yn awdurdodau lleol, byrddau iechyd, gwasanaethau cyhoeddus, undebau llafur, cyrff cyhoeddus, mudiadau gwirfoddol, prifysgolion neu golegau, neu fudiadau eraill sy’n gwasanaethu rhannau o Gymru neu Gymru gyfan.

Os yw eich mudiad yn cytuno â’n gweledigaeth, i Gymru fod y ‘Ddinas Noddfa’ gyntaf, lle caiff pobl sy’n ceisio noddfa groeso; cenedl sy’n deall ac sy’n dathlu eu cyfraniad i fywyd Cymru, llanwch y ffurflen addewid isod a’i hanfon i [email protected].

Ffurflen addewid Cenedl Noddfa Saesneg - golygadwy
Ffurflen addewid Cenedl Noddfa Cymraeg - golygadwy

Byddwn yn ychwanegu eich mudiad at ein cronfa ddata o gefnogwyr, yn cefnogi ac yn dathlu eich ymdrechion i gyfrannu at wireddu gweledigaeth Cenedl Noddfa, a sicrhau eich bod yn cael y newyddion diweddaraf drwy e-bost.

Unigolion/Mudiadau Lleol a Grwpiau

Rydym yn annog unigolion a mudiadau a grwpiau lleol i fod yn hyrwyddo’r mudiad Cenedl Noddfa. Gallwch wneud hyn drwy annog sefydliadau rhanbarthol yr ydych yn ymwneud â nhw i ymuno â’r weledigaeth Cenedl Noddfa. Cysylltwch â’ch cyngor lleol, prifysgol neu fwrdd iechyd i’w hannog i gymryd rhan.

Gallwch hefyd gyfrannu at fudiad Cenedl Noddfa drwy gymryd rhan mewn mentrau croeso lleol neu drwy annog eich cymuned leol i fod yn gymuned noddfa. Ewch i cityofsanctuary.org i gael mwy o wybodaeth.

Pam ddylem ni gefnogi gweledigaeth Cenedl Noddfa?

Rydym yng nghanol yr ymfudo dan orfod mwyaf ers yr Ail Ryfel Byd, ac mae miliynau o bobl ar draws y byd yn byw y tu allan i’w gwlad eu hunain er mwyn bod yn ddiogel. Yng Nghymru mae gennym hanes balch o groesawu pobl sy’n ceisio noddfa ac mae eu cyfraniad i fywyd Cymru nawr yn amlwg yn ein cymunedau. Fel y dywedodd un ceisydd noddfa yn Cymru 2017: cynhadledd Cenedl Noddfa: ‘Mae Cymru’n wlad fach, ond mae ganddi galon fawr!’

Diolch i Lywodraeth ddatganoledig, mae gennym ni gyfle yng Nghymru i wneud pethau mewn ffordd wahanol. Mae gan Gymru hunaniaeth unigryw ac yn y gorffennol mae wedi bod ar flaen y gad mewn meysydd pwysig yn ymwneud â chyfiawnder cymdeithasol a dinasyddiaeth fyd-eang: y gwaharddiad ar smygu mewn mannau cyhoeddus, codi tâl am fagiau plastig mewn archfarchnadoedd, y drefn eithrio o ran rhoi organau a’r Genedl Masnach Deg gyntaf yn y byd. Rydym eisoes yn cynnig gofal iechyd sylfaenol ac eilaidd i geiswyr lloches ac mae polisïau Llywodraeth Cymru yn adlewyrchu ei hymroddiad i’r egwyddor fod ‘integreiddio yn dechrau ar y diwrnod cyntaf’. Rydym yn credu bod cyfle i fynd ymhellach gyda Chymru ar flaen y gad yn croesawu ffoaduriaid ac yn eu hannog i ffynnu yn eu cymunedau newydd.

 

Cymraeg