Skip to main content

Mae Cynghrair Ffoaduriaid Cymru, ynghyd ag unigolion a grwpiau cymunedol ledled Cymru yn galw ar Gymru i fod y ‘Genedl Noddfa’ gyntaf yn y byd. Rydym yn adeiladu ar waith y mudiad Dinas Noddfa sy’n bodoli ledled y Deyrnas Unedig (DU) ac Iwerddon, yn ogystal â’r gwersi a ddysgwyd gan grwpiau Dinas Noddfa sydd eisoes yn bodoli yng Nghymru gan gynnwys Abertawe , Caerdydd , Croeso Teifi , Y Gelli, Aberhonddu a Talgarth , Wrecsam a Castell-nedd Port Talbot.

Bu pobl ledled Cymru yn ymateb i’r argyfwng ffoaduriaid sy’n parhau mewn trefi a phentrefi ledled y wlad, gan sefydlu cynlluniau sy’n cynnig cefnogaeth a chroeso. Rydym yn awyddus i’r croeso cynnes hwn barhau a thyfu i wneud Cymru y ‘Genedl Noddfa’ gyntaf erioed.

Cymraeg