Skip to main content

Gan adeiladu ar lwyddiannau grwpiau Dinas Noddfa ledled y wlad a phartneriaid eraill yng Nghynghrair Ffoaduriaid Cymru, ein nod yw i Gymru fod y ‘Genedl Noddfa’ gyntaf yn y byd, gan ddathlu lletygarwch Cymreig a’n hanes o ymfudo a diogelwch.

Ein gweledigaeth yw bod Cymru yn wlad lle caiff pobl sy’n ceisio noddfa groeso; cenedl sy’n deall ac yn dathlu eu cyfraniad unigryw i dapestri cyfoethog bywyd Cymru.

Rydym yn gwybod y bydd yn cymryd gweithredu gan amrywiaeth eang o bobl a sefydliadau, ledled Cymru i wireddu’r weledigaeth hon. Rydym yn falch bod gennym gefnogaeth Llywodraeth Cymru eisoes ac rydym wedi cychwyn ar waith hynod o gyffrous gyda phrifysgolion, y gwasanaeth iechyd ac undebau llafur

Os hoffech chi ymuno â’r mudiad i wneud Cymru yn Genedl Noddfa, gallech ystyried rhai o’r syniadau yma neu cysylltwch â ni!

Cymraeg